Exterior CCTV system

Systemau Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)

Mae yna un camera gwyliadwriaeth ar gyfer pob un ar ddeg o bobl ym Mhrydain. Pam? Am eu bod yn gweithio. Mae’n ataliad pwerus ac yn ddull profedig o gadw eich eiddo’n ddiogel.
Gall Teledu Cylch Cyfyng fonitro a chofnodi digwyddiadau pan maent yn digwydd, mewn amser real, gan ddiogelu eich eiddo, cerbydau a’ch meddiannau rhag lladrad, fandaliaeth neu gamdriniaeth.

Gall golygfeydd aml-sgrîn eich galluogi i fonitro nifer o leoliadau ar yr un pryd ar yr un sgrin a, chyda mynediad i’r rhyngrwyd, gallwch weld beth sydd ar eich camerâu o unrhyw le yn y byd bron iawn ar ffôn clyfar, dabled neu gyfrifiadur.

Mae Teledu Cylch Cyfyng hefyd yn cynnig y cyfleuster i adalw digwyddiadau, a hynny funudau, diwrnodau neu hyd yn oed wythnosau wedi iddynt ddigwydd, gan ddarparu tystiolaeth hanfodol o gamddefnydd/camdriniaeth peiriannau, eiddo, neu hyd yn oed pobl.

Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i atal hawliadau yswiriant twyllodrus neu ddi-sail yn ogystal â darparu tystiolaeth diamheuol fydd yn ddilys mewn llys barn.

Yn Snowdonia Fire & Security rydym yn cynnig ystod eang o systemau Teledu Cylch Cyfyng i weddu i bob gofyniad. Cysylltwch â ni am arolwg yn rhad ac am ddim heb dim rhwymedigaeth.