Gosod a Gwasanaethu Drysau Tân
Mae drysau tân yn gwneud cyfraniad allweddol tuag at greu amgylchedd gweithio diogel, a gellir eu defnyddio i wahanu llwybrau dianc rhag peryglon, gan helpu’r broses gwacáu mewn argyfwng tra’n rhoi amser gwerthfawr i ddianc. Ond, er mwyn cydymffurfio â’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio 2005 (Diogelwch Tân), mae’n rhaid cynnal a chadw drysau tân yn rheolaidd ym mhob adeilad ble mae’r gorchymyn yn berthnasol. Dylid cynnal y gwiriadau hyn o leiaf pob chwe mis, neu hyd yn oed yn amlach yn dibynnu ar faint o draffig sy’n mynd drwy’r drws.
Os ydych chi’n edrych am gwmni dibynadwy a all ddarparu cynnal a chadw rheolaidd ar gyfer drysau tân, yn ogystal â gwasanaeth gosod drysau tân, Snowdonia Fire Protection Ltd yw’r ateb. Mae ein tîm arbenigol yn arbenigwyr ar bopeth sy’n ymwneud â drysau tân, a byddant yn eich helpu i sicrhau bod y drysau tân yn eich eiddo chi yn ddiogel ac yn cydymffurfio bob amser. I ddarganfod mwy am wasanaethu drysau tân masnachol, cysylltwch gyda ni heddiw os gwelwch yn dda.