Fire safety equipment by Snowdonia Fire Protection

System Taenellwyr Masnachol

Ers Ionawr 1af, 2016, mae’n rhaid i bob eiddo domestig a masnachol sydd wedi eu hadeiladu o’r newydd neu eu trawsnewid yn Nghymru fod â system daenellwyr wedi ei gosod, ac mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â gofynion Safon Prydeinig BS9251.
Yn Snowdonia Fire Protection Ltd, mae gennym dîm ymroddedig o ddylunwyr a pheiriannwyr all ddarparu gosodiadau taenellwyr a chynnal a chadw ar systemau taenellwyr eiddo preswyl a masnachol. Yn masnachu ers 1974, golygai ein cyfoeth o brofiad ein bod y cwmni perffaith i fynd â’ch prosiect drwy bob cam unigol: o arolwg safle i’r ardystiad terfynol a’r gwaith cynnal a chadw arferol dilynol.

Defnyddiwn y dechnoleg meddalwedd ddiweddaraf ar gyfer cynhyrchu darluniau CAD yn fewnol, yn ogystal â chyfrifiadau dylunio hydrolig i’w cyflwyno i awdurdodau dŵr ac adrannau rheoli adeiladu. Gall ein tîm medrus ddarparu opsiwn wedi ei deilwra yn benodol ar gyfer eich anghenion chi, yn cynnwys y defnydd o bennau taenellu cudd i sicrhau fod eich system daenellu’n anamlwg.

Mae gan ein hadran daenellwyr hefyd achrediad trydydd parti ar gyfer pob agwedd yn ymwneud â systemau taenellu domestig a masnachol, o’r dylunio i’r comisiynu terfynol, felly gallwch fod yn dawel eich meddwl bod yr holl waith rydym yn ei wneud yn bodloni’r safonau angenrheidiol.