The team testing Snowdonia Fire equipment

Asesiad Risg Tân

imageYn unol â gofynion y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio 2005 (Diogelwch Tân), gall Snowdonia Fire & Security gynnal asesiad risg tân llawn ar gyfer eich eiddo.

Mae’r Asesiad yn cynnwys astudiaeth cynhwysfawr o’r eiddo, i ddarparu asesiad o’r risg i fywyd o dân yn yr eiddo ac, ble’n briodol, yn gwneud argymhellion i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r ddeddfwriaeth diogelwch tân. Mae cwmpas yr adroddiad yn amrywio o adnabod peryglon a sylweddau peryglus, adnabod unigolion sydd mewn perygl arbennig, asesu effeithiolrwydd y trefniadau diogelwch tân presennol, galluoedd staff ac anghenion hyfforddiant gan argymell newidiadau ac/neu ychwanegiadau i ddiogelwch tân fel yn briodol.

Yn dilyn darpariaeth yr adroddiad llawn, gall ein tîm profiadol a chymwys eich cynghori ynghylch unrhyw gamau y gallai fod eu hangen.