NEWYDDION
Datblygu partneriaeth newydd gyda chwmnïau lleol yn creu cyfleoedd
"Byddwn yn gwario dros £100k y flwyddyn gyda Snowdonia Fire Protection, sy’n dod i hanner miliwn dros y pum mlynedd nesaf.
Rydym wedi dyfarnu ein cytundeb Gwasanaethu a Chynnal a Chadw Diogelwch Tân i Snowdonia Fire Protection Ltd, sydd wedi eu lleoli yn Waunfawr, Gwynedd yn dilyn proses dendro gystadleuol yn ddiweddar.
Bydd y cytundeb a ddyfarnwyd gennym ni yn galluogi Snowdonia Fire Protection i recriwtio un prentis, un gweinyddwr ac yn peiriannydd tân newydd.”
Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl gyfan am Ddatblygu partneriaeth newydd.
SWYDDI GWAG
Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio ar gyfer y rolau a ganlyn i ymuno â’n tîm yma yn Snowdonia Fire & Security:
Am wybodaeth bellach ac i wneud cais, e-bostiwch ni gyda’ch CV ac e-bost esboniadol, os gwelwch yn dda, i servicemail@snowdonia-fire.co.uk. |
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am beiriannydd mecanyddol / gosodwr pibelli profiadol, i ymuno â’n tîm llethu tân yma yn Snowdonia Fire & Security. Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb yrru eu CV ac e-bost esboniadol i servicemail@snowdonia-fire.co.uk. |
Diweddariad Covid-19
Hoffem gymryd y cyfle hwn i sicrhau ein cwsmeriaid ein bod, fel gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig byd-eang hwn, yn parhau i wasanaethu a chynnal a chadw eich systemau tân a diogelwch.
Ein prif ymrwymiad yw i sicrhau eich bod i gyd yn parhau i gydymffurfio, a byddwn yn gweithio gyda’n cwsmeriaid i sicrhau bod yr amserlen wasanaethu’n dal i gael ei diweddaru, tra’n cadw iechyd a diogelwch eu pobl nhw a’n pobl ni ym mlaen ein meddyliau.
Yn unol â’r argymhelliad gan ein corff diwydiant, yr IFEDA, byddwn yn cynghori ein cwsmeriaid os ydynt eisiau gohirio unrhyw ymweliadau gwasanaeth, ein bod yn eu cynghori’n gryf eu bod yn caffael cadarnhad ysgrifenedig fod hyn yn dderbyniol gan eu darparwyr yswiriant.
Os yw cwsmeriaid yn gofyn i ni ohirio ymweliad gwasanaeth am nifer o fisoedd, maent yn mynd y tu allan i ofynion cynnal a chadw o dan y Safonau Prydeinig. Dyma pam rydym yn cynghori cymeradwyaeth gan eich darparwr yswiriant, oherwydd os yw’r gwaethaf yn digwydd, yna mae posibilrwydd y byddant yn gwrthod talu oherwydd nad yw amserlen cynnal a chadw’r system wedi ei diweddaru.
Mae iechyd a diogelwch wastad ym mlaen ein meddyliau ac yn sail i bopeth a wnawn yn ein diwydiant. Ond, fe hoffwn sicrhau ein cwsmeriaid a’n gweithwyr ein bod yn gwneud popeth posibl i ddiogelu ein rhanddeiliaid allweddol yn ystod y cyfnod hwn trwy ofyn i’n holl gyflogai i ymlynu i’r canllawiau glendid a phellter cymdeithasol llym.
Diolchwn i chi am eich busnes a’ch cefnogaeth barhaus.
Snowdonia Fire and Security
Snowdonia Fire and Security yn ennill y cytundeb i ddiogelu Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Dioddefodd yr adeilad eiconig dân difrifol yn 2013 ac mae’n cael ei adnewyddu mewn prosiect gwerth £10m ar hyn o bryd.
Cliciwch yma am y cytundeb i ddiogelu’r Llyfrgell Genedlaethol.
Snowdonia Fire and Security yn ennill Gwobr am roi’n ôl i’r gymuned
Yn ddiweddar, llwyddodd Snowdonia Fire and Security i ennill contract pum mlynedd werth £80,000 i gyflenwi, gosod a chynnal a chadw larymau tân i 120 o Orsafoedd Heddlu Gogledd Cymru, er gwaethaf cystadleuaeth gryf gan gewri diogelwch yr Unol Daleithiau, Honeywell. Cawsant eu cydnabod fel rhan o bolisi gwerth cymunedol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones sy’n anelu i roi blaenoriaeth i fusnesau lleol wrth ddyfarnu contractau.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am y wobr am roi yn ôl i’r gymuned.
Pennaeth heddlu yn pledio i ‘brynu’n lleol i hybu economi Gogledd Cymru a chreu swyddi’
Mae pennaeth HEDDLU yn annog cyrff cyhoeddus i brynu’n lleol i hybu’r economi, i greu swyddi ac i wella bywydau cymunedau yng Ngogledd Cymru.
Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y rhanbarth, Arfon Jones, yn siarad yn dilyn llwyddiant Snowdonia Fire and Security yng Ngwynedd, sydd â swyddfeydd ym Mae Cinmel ac Aberystwyth hefyd, i guro cystadleuaeth o dramor i ennill y gontract £80,000, am bum mlynedd gyda Heddlu Gogledd Cymru.