AMDANOM NI
Wedi sefydlu fel masnachwr unigol ym 1974, daethom yn Gwmni Cyfyngedig yn 2003.
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu boddhad a gwasanaeth ardderchog i’n holl gwsmeriaid – masnachol a phreswyl – a golygai’r ymrwymiad hwn ein bod yn gwella ein systemau a’n gwasanaeth yn barhaus i ddiwallu eich anghenion yn well.
Dechreuom drwy gyflenwi a chynnal a chadw diffoddyddion a riliau tân, ond mae’r cwmni wedi ehangu’n sylweddol dros y 44 mlynedd, ac mae ein portffolio gwasanaethau’n cwmpasu Dylunio, Gosod, Comisiynu a Cynnal a Chadw’r canlynol erbyn hyn:
- Offer Ymladd Tân
- Larymau Tân a Thresmaswyr
- Goleuadau Argyfwng
- Systemau taenellu domestig
- Teledu Cylch Cyfyng a Mynediad Drws
- Systemau Llethu Tân
- Systemau Nursecall
- Systemau Domestig (Pt 6)
Mae’r cwmni wedi ehangu’n raddol, ac yn darparu gwaith llawn amser, a chyflog da i 53 o bobl ledled Cymru a Sir Amwythig erbyn hyn.
Mae gennym ganghennau ym Mae Cinmel, Aberystwyth, a’r Amwythig, ac mae’r prif swyddfeydd yn Waunfawr wedi cael eu hailadeiladu a’u hadnewyddu’n helaeth.
Mae’r cwmni’n rhoi pwyslais mawr ar foddhad cwsmeriaid ac yn darparu hyfforddiant mewnol a hyfforddiant y diwydiant i bob cyflogai yn ôl yr angen, i sicrhau bod y tîm yn hollol gymwys a hyderus ym mhob rhan o’u rolau.
Mae gennym achrediad trydydd parti fel a ganlyn:
- B.S.I. – Certificate no. FS 20010
- N.S.I. FIRE (Gold ) – Certificate no. FIR/G/10050
- N.S.I. INTRUDER (Gold ) – Certificate no. 51307
- NICEIC – Enrolment no. 023897000
- FIRAS Sprinkler systems – Certificate no. QJ1413
- CHAS
- CONSTRUCTION LINE Registration No. 49206
- INVESTORS IN PEOPLE