Arwyddion
Mae Snowdonia Fire & Security yn cynnig cyngor ar leoliad a’r math o arwyddion diogelwch tân sydd eu hangen yn eich eiddo, ac yn cyflenwi a gosod ystod eang o arwyddion diogelwch ac offer tân, sydd ar gael yn y Saesneg neu’n ddwyieithog.
Mae’r mwyafrif o’r arwyddion yn ffoto-ymoleuol, i alluogi eu gweld mewn achos o fethiant pŵer.
Arwyddion Diogelwch
Mae arwyddion diogelwch tân yn hanfodol i gynorthwyo staff ac ymwelwyr i leoli’r llwybr dianc mwyaf addas mewn achos o dân, ac hefyd yn helpu gyda lleoliad offer diogelwch tân.
Dylid dewis a gosod y rhain mewn ffordd sydd yn sicrhau eu gwelededd o unrhyw fan mewn adeilad. Mewn achos o dân, mae’n hanfodol fod offer ymladd tân ar gael yn barod ar gyfer ei ddefnyddio fel ymateb cyntaf. Am y rheswm yma, mae’n rhaid adnabod offer o’r fath yn sydyn ac mae’n ofynnol yn gyfreithiol o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio 2005 (Diogelwch Tân).
Arwyddion Llwybr Dianc
Mae’n rhaid sicrhau bod gan bobl arweiniad cyfeiriadol clir ar sut i gyrraedd man diogel o unrhyw bwynt o fewn adeilad. Rhoddir y cyfarwyddiadau hyn trwy ddefnyddio arwyddion gwacáu safonol wedi eu lleoli ar hyd y llwybr gwacáu gan ddilyn y protocolau a ddiffinir yn BS5499-4 2013: Safety Signs – Code of Practice for Escape Route Signing a BS ISO 16069:2004 Safety Way Guidance Systems.
Mae’r system diogelwch gwacáu yn cynnwys arwyddion diogelwch sydd wedi eu lleoli uwchben drysau, ac arwyddion yn nodi pob newid mewn cyfeiriad ar hyd y llwybr gwacáu. Mae’n hanfodol pan yn cyrraedd arwydd eu bod yn gallu gweld y nesaf yn syth ac yn parhau ar y llwybr hwnnw nes dod i’r allanfa olaf.
Mae darpariaeth modd effeithiol o ddianc trwy ddefnyddio arwyddion llwybr dianc yn ofyniad cyfreithiol o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio 2005 (Diogelwch Tân).
Arwyddion Diogelwch Eraill
Wrth adnabod y gwahanol lefelau risg, mae’n rhaid lleoli’r arwyddion hyn yn glir i nodi natur a lleoliad y peryglon.
Ym mhob sefyllfa ble gall rhai gweithredoedd neu ymddygiadau fod yn beryglus neu achosi risg, mae’n rhaid defnyddio arwyddion gwahardd er mwyn lleihau y risgiau sy’n gysylltiedig â’r math hwn o ymddygiad.
Bydd y defnydd cywir o arwyddion Perygl yn y lleoliadau cywir yn lleihau’r nifer o ddigwyddiadau peryglus a’r risg o ddamweiniau. Dylid rhoi sylw arbennig i osod yr arwyddion mewn lleoliad clir a gweladwy cyn dod ar draws y perygl. Mae’n rhaid i’r arwyddion hefyd fod mor agos â phosibl i’r ardaloedd risg. Er enghraifft: Mewn ardal ble mae wagenni fforch godi yn weithredol, dylid gosod arwyddion ar bob drws sy’n arwain i’r ardal hon yn ogystal â lleoli arwyddion cyflenwol eraill ar lefel uwch.
Er mwyn sicrhau y defnydd o Offer Amddiffynol Personol (‘PPE’), neu i nodi bod angen cymryd cwrs gweithredu penodol, mae’n rhaid defnyddio arwyddion Gorfodol. Mae Arwyddion Drws Tân hefyd yn ofyniad cyfreithiol, gyda’r rhain hefyd yn cael eu categoreiddio fel arwyddion diogelwch Gorfodol.