Adolygiadau ar gyfer Snowdonia Fire Protection
"Wrth fy modd gyda Snowdonia Fire, yn enwedig Nathan o'r tîm sprinclars ac Eirian yn nhîm y swyddfa. Rwyf wedi cael problem gyda fy system sprinclars domestig ers naw mis ac wedi rhoi cynnig ar gwmnïau rhanbarthol eraill, a ymatebodd naill ai (os o gwbl) ar ôl llawer o anogaeth a / neu ddyfynnu pris uchel yn seiliedig ar yr hyn yr ymchwiliais i oedd cost partiau.
Felly ceisiais Snowdonia Fire am farn arall a dylswn wedi gwneud hynny o'r cychwyn cyntaf. Roedd y tîm yn gyflym i ymateb i'm ymholiad cychwynnol, daeth y peiriannydd (Nathan) allan i asesu'r mater yn brydlon ac yna rhoddodd ddyfynbris rhesymol ac yn gyflym i ddatrys y broblem.
Yna dilynodd i fyny fel y trefnwyd i osod ac mae popeth rwan yn dda. Prydlon, cwrtais, cystadleuol a phroffesiynol; popeth yr hoffech chi mewn unrhyw gwmni. Byddwn yn argymell Snowdonia Fire i unrhyw un ac er fy mod yn gwsmer preswyl bach fe'm gwnaed i deimlo'n bwysig ac felly does gen i fawr o amheuaeth bod ganddyn nhw'r proffesiynoldeb ar gyfer swydd o unrhyw faint."
Andy
"Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn defnyddio Snowdonia Fire Services ar gyfer ein holl anghenion yn ein gwesty, ac wedi canfod eu bod yn brydlon, bod eu prisiau’n dêg, ac yn hawdd iawn mynd atynt.
Rwyf mor hapus gyda’u gwasanaeth a safon eu gwaith, ein bod (yn 2020) yn edrych i ofyn iddynt wasanaethu un o’n gwestai eraill gan fod eu safonau a’u sgiliau’n 5 seren.
Os byddwn byth yn cael problem gyda’n hamddiffyniad tân maent yn dod allan ar unwaith ac yn cywiro’r mater unrhyw amser o’r dydd a’r nos.
Buaswn yn fwy na hapus i argymell Snowdonia i unrhyw berson neu gwmni sy’n edrych am wasanaeth o’r radd flaenaf gan gwmni amddiffyn rhag tân."
James Burns
"Roeddem newydd symud i mewn i eiddo newydd ac angen cyngor ynghylch ein diogelwch tân. Roedd Snowdonia yma y diwrnod wedyn i gyflenwi a gosod y diffoddyddion angenrheidiol. Roedd y peiriannydd yn hynod effeithlon, cyfeillgar a chymwynasgar. Rhoddodd ddipyn o hyfforddiant i ddau ohonom ar sut i ddefnyddio’r offer hyd yn oed, oedd yn galonogol iawn. Gosododd yr offer heb ddim llanast a dim trafferth, ac hyd yn oed hongian llun i ni tra roedd y dril ganddo! Yn wych o sydyn, gwaith gwych a gwasanaeth gwych.”
Michelle Bartleet-Greavey - Baa Stool Ltd - Dinbych
"Buaswn yn cymeradwyo Snowdonia Fire & Security yn fawr. Mae ots gwirioneddol ganddynt am eu Cleientiaid, ac maent yn cynnig gwasanaeth gwych a phrydlon. Debyniais alwad ffôn ddilynol, wedi dwy alwad larwm, y bore drannoeth i weld os oeddwn i’n iawn. Cyrhaeddodd y peiriannwyr i wirio’r system o fewn 1 awr i’n sgwrs ar y ffôn. Mae hyn yn wasanaeth rhagorol – Diolch!”
Debbie Owen - Owens Electrical – Bae Colwyn
“Gallais drafod gyda’r peiriannydd yn fy iaith fy hun – Cymraeg. Roedd yn effeithlon, yn broffesiynol ac yn gyfeillgar, oedd yn help, ac fe dawelodd fy meddwl yn fawr. Byddaf yn sicr o gymeradwyo eich cwmni os caf y cyfle.”
EB, Criccieth