Diffoddyddion Tân Masnachol
Ar gyfer gosodiad diffoddydd tân premiwm i’r cartref neu fasnachol a gwasanaeth cynnal a chadw sy’n cydymffurfio i Safonau Prydeinig (BS5306 Pt 3 2009), dewiswch Snowdonia Fire Protection Ltd yng Ngogledd Cymru.
Gall ein technegwyr cymwysedig BAFE eich cynorthwyo i ddewis y diffoddydd tân cywir ar gyfer eich eiddo chi, gan gynnig gwasanaeth gosod diffoddydd tân cynhwysfawr ac amcambris am ddim. Nid yw pob diffoddydd tân wedi ei ddylunio i’r un pwrpas, felly siaradwch gyda’n technegwyr arbenigol i ddod o hyd i’r offer cywir ar gyfer eich eiddo chi.
Mae angen gwasanaeth blynyddol ar gyfer pob diffoddydd tân, felly mae cynnal a chadw rheolaidd yn hanfodol i roi tawelwch meddwl i chi fod eich offer yn gweithio bob amser. Gall ein tîm gynnig nodiadau atgoffa a threfnu amser cyfleus gyda chi ar gyfer gwasanaeth diffoddydd tân cynhwysfawr.
Am wybodaeth bellach ynghylch diffoddyddion tân, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.