Monitro o Bell
Mae monitro o bell yn galluogi’r Ganolfan Derbyn Larymau i fonitro eich system 24 awr y dydd ar gyfer unrhyw arwyddion a allai gael eu trosglwyddo i nodi nam.
Gellir trefnu monitro ar gyfer systemau tân a systemau tresmaswyr.
Mae nifer o wahanol fathau o fonitro ar gael. Gall y math o fonitro sydd ei angen ar gyfer eich eiddo ddibynnu ar eich polisi yswiriant adeilad.
Yn ogystal â buddion diogelwch clir, gall systemau larwm sy’n cael eu monitro helpu i leihau costau’r taliadau yswiriant. Mae rhai yswirwyr yn cynnig prisiau is ar gyfer eiddo preswyl neu fasnachol sydd â systemau larwm sy’n cael eu monitro gan yr heddlu neu gan ddeilydd allwedd, oherwydd y gostyngiad mewn risg mae’r gwasanaethau hyn yn ei gynnig.
Am gyngor neu wybodaeth bellach cysylltwch â’n swyddfa os gwelwch yn dda.