Systemau Larwm Tân Masnachol
Mae’n ofyniad cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig o dan y Gorchymyn Diogelwch Tân fod y person sy’n gyfrifol am yr eiddo yn gorfod sicrhau bod larwm tân wedi ei osod ac yn weithredol bob amser. Os ydych chi am sicrhau bod eich adeilad yn cydymffurfio â’r côd, Snowdonia Fire Protection Ltd yw’r cwmni i gysylltu â hwy. Gan gyfuno bron i 50 mlynedd o brofiad gyda’r dechnoleg ddiweddaraf, rydym yn arbenigwyr mewn sicrhau bod ein systemau larwm tân domestig a masnachol yn bodloni’r gofynion llym a amlinellwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig.
O’r dylunio a’r gosod, i brofi ac ôl-ofal, rydym yn bartner y gallwch ymddiried ynddo, felly cysylltwch â ni heddiw.