SFP van

Diogelu Eiddo: Awgrymiadau i Gadw eich Cartref yn Ddiogel

Mae miloedd o danau tŷ damweiniol yn digwydd bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, gan arwain i glwyfedigion a rhai marwolaethau hyd yn oed. Gall fod yn llawer rhy hawdd diystyrru'r ffaith hon gan feddwl na fyddai byth yn digwydd i chi, ond pam cymryd y risg?

Yr unig beth sydd ei angen yw i weithredu ar ychydig o awgrymiadau syml i ddiogelu eich cartref a lleihau y risg o dân yn torri allan yn eich eiddo. Cadwch eich hun a'ch teulu'n ddiogel gan ddal ymlaen i ddarllen wrth i ni drafod ein hargymhellion diogelwch cartref.

Argymhellion Diogelwch Cartref

Gosodwch Synhwyrydd Mwg

Mae'r cam cyntaf i ddiogelu eich cartref yn golygu gosod synhwyrydd mwg. Yn wir, os ydych chi'n symud i fyw ar unrhyw adeg, dylai hyn fod yn un o'ch prif flaenoriaethau. Mae larymau mwg ar gael yn hawdd ac yn fforddiadwy, gydag amrywiaeth o larymau i ddewis ohonynt.

Er enghraifft, gallech ddewis prynu larwm arferol wedi ei bweru gan fatri, neu gallech fynd am un wedi ei wefru, neu hyd yn oed systemau sydd wedi eu galluogi i weithio gydag ap.

Fel yr awgryma'r enw, mae synwyryddion mwg yn synhwyro pan mae swm gormodol o fwg yn eich cartref, a byddant yn seinio'r larwm i'ch rhybuddio y gallai hyn fod o ganlyniad i dân posibl, gan eich galluogi i gymryd y camau gweithredu angenrheidiol gyda digon o rybudd.

Fe'ch cynghorir y dylech gael un o'r synwyryddion hyn wedi eu gosod ar bob lefel o'ch eiddo ac, yn ddelfrydol, ddim wedi eu  gosod mewn ystafelloedd ble mae mwg neu stêm yn debygol o'u sbarduno mewn sefyllfa nad yw'n argyfwng (e.e. eich ystafell ymolchi neu gegin). Mae'n well eu gosod yng nghanol y nenfwd.

Dylech nid yn unig gosod larwm, mae hefyd yn hanfodol i'w brofi'n rheolaidd. Yr arfer orau yw i brofi eich larwm unwaith yr wythnos, ond dylech wneud hyn o leiaf unwaith y mis. Os ydych chi'n defnyddio larwm a bwerir gan fatri, yna dylech newid y batris o leiaf unwaith y flwyddyn, neu'n fwy aml os ydynt yn darfod – a byddwch yn gwybod hyn o gynnal y profion angenrheidiol. Wedi'r cyfan, nid yw larwm sydd wedi torri neu heb bŵer ddim gwell na dim larwm o gwbl.

Gosodwch Synhwyrydd Carbon Monocsid

Yn yr un modd ag y mae'n bwysig i osod synhwyrydd mwg, mae'r un mor ddoeth i osod synhwyrydd carbon monocsid – yn enwedig os oes gennych bopty nwy, boeler nwy ac/neu dân agored yn eich cartref.

Mae carbon monocsid yn laddwr tawel, un y dylech ei gymryd o ddifrif. Os oes gollyngiad carbon monocsid, neu ei fod yn cronni yn eich cartref, yna gallwch gael gwenwyn carbod monocsid, a nodweddir gan y symptomau canlynol:

  • Cur pen
  • Pendro
  • Teimlo'n sâl neu yn sâl
  • Teimlo'n wan
  • Dryswch
  • Poen yn y frest a'r cyhyrau
  • Yn fyr o anadl

Gelwir carbon monocsid yn laddwr tawel am ei fod yn nwy anweladwy, di-arogl – felly dyma pan yr ydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn gosod larwm carbon monocsid, oherwydd gallai'r canlyniadau fel arall brofi i fod yn angheuol.

Os byddwch yn gosod un o'r larymau hyn a hwnnw'n seinio, rhowch y gorau i ddefnyddio'r offer rydych yn meddwl sydd wedi ei achosi, agorwch y ffenestri a'r drysau i adael awyr iach i mewn, ewch allan a cheisio cyngor meddygol mor fuan â phosibl, a peidiwch â mynd yn ôl i mewn cyn gwneud hynny. Nid yn unig mae carbon monocsid yn achosi perygl i iechyd, gall hefyd achosi'r perygl o dân, felly mae'r cam olaf yma'n arbennig o bwysig.

Buddsoddwch mewn Offer Diogelwch TÂn

Er ei bod bob amser yn well disgwyl am y frigâd dân a gadael iddyn nhw ddelio gyda thân sy'n torri allan yn eich cartref, mae peth offer y gallwch ei gadw os oes tân yn torri allan sydd yn fach ac yn rheoladwy.

Y cyntaf yw blanced tân. Blanced yw hon sydd wedi ei gwneud o ffabrig wedi ei wehyddu gwrth-fflam, wedi ei ddylunio i helpu i ddiffodd tanau bach sy'n cychwyn. Gellir defnyddio blancedi tân mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft gellir eu gosod dros danau bach i'w diffodd, gellir eu lapio o gwmpas rhywun sydd ar dân, neu gellir eu gwisgo fel clogyn amddifynnol pan yn dianc o adeilad ble mae tân wedi torri allan.

Y darn nesaf o offer yw diffoddydd tân i'r cartref. Er fod y rhain i'w gweld mewn eiddo cyhoeddus neu fasnachol fel arfer, gallwch gael diffoddyddion tân bychain sy'n addas ar gyfer eu defnyddio yn y cartref. Y diffoddydd gorau i'w brynu ar gyfer y cartref yw'r diffoddydd powdr (rhain yw'r diffoddyddion gyda label glas), gan mai hwn yw'r diffoddydd mwyaf hyblyg ac mae â'r gallu i ddiffodd pob math o dân ar wahân i danau Dosbarth F (y rhai sydd wedi cychwyn gydag olew coginio).

Y darn olaf o offer yr ydym yn meddwl y dylech ei gael yn eich arfdy diogelwch tân yw ystol dihangfa dân. Gellir dweud un peth am bob tân: Maen nhw'n anrhagweladwy. Tra gallai tân ddechrau yn fach, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gall ledaenu'n hawdd ac yn gyflym. Yn yr achosion gwaethaf, gall tân rwystro eich llwybr dianc, gan olygu mai'r unig opsiwn allai fod i ddianc drwy ffenestr i fyny'r grisiau.

Mae ystolion dihangfa dân yn berffaith yn y sefyllfa hon, oherwydd efallai nad oes dim rhyngoch chi a'r ddaear o'r ffenestr rydych angen dianc drwyddi. Mae'r ystolion hyn yn hawdd i'w storio, gan eu bod yn plygu'n fach, ond maent yn dal i fod yn sydyn ac yn hawdd i'w hagor mewn argyfwng, gan fachu'n ddiogel dros eich silff ffenestr tra mae'r ystol yn hongian y tu allan i'r ffenestr gan eich galluogi chi a'ch teulu i ddianc yn ddiogel.

Sefydlu Llwybr Dianc

Yn amlwg, os bydd tân yn cynnau yn eich cartref, ni allwch ragweld ble byddai'n digwydd. Er hynny, dylech benderfynu ar lwybr dihangfa dân sy'n fwyaf tebygol o barhau i fod yn glir os byddai achos o dân yn cychwyn. Sefydlwch lwybr dianc gan sicrhau fod pawb yn eich cartref yn ymwybodol o hyn.

Mae hefyd yn bwysig cadw'r allanfa o'ch dewis yn glir o rwystrau bob amser, er mwyn i chi allu dianc yn hawdd mewn unrhyw sefyllfa ble mae angen hynny. Awgrymwn eich bod yn sicrhau fod pob allanfa yn eich eiddo yn cael eu cadw'n glir am yr union reswm hwn – os oes tân yn digwydd ac mae'n rhwystro eich allanfa o ddewis, yna byddwch angen defnyddio un amgen, felly mae'n well sefydlu cynllun B a chynllun C hefyd hyd yn oed.

Osgoi Risgiau TÂn

Hyd yn hyn, mae ein holl argymhellion yn ymwneud mwy â'ch cadw chi'n ddiogel wedi i dân ddechrau, ond beth am fesurau ataliol? Mae gwneud yr hyn a allwch i osgoi peryglon tân posibl yn hollbwysig, ac mae nifer o bethau i'w cofio sy'n gyffredin am achosi tanau mewn cartrefi.

Mae'r tri achos yn cynnwys canhwyllau, socedi a choginio. Os ydych chi'n tanio canhwyllau yn eich cartref, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu gosod ar wyneb gwrth-wres ac i ffwrdd oddi-wrth ddeunyddiau fflamadwy (e.e. llenni) a peidiwch byth a'u gadael heb oruchwyliaeth mewn ystafell. Yn yr un modd, cofiwch bob amser i ddiffodd canhwyllau cyn gadael eich cartref neu fynd i'r gwely.

Nesaf, socedi. Rydym yn ymwybodol iawn fod llawer o bobl yn defnyddio socedi a cheblau estyniad i blwgio nifer o ddyfeisiau i mewn ar yr un pryd, sydd yn amlwg yn hwylus pan nad oes soced arall ar gael neu heb ei leoli yn hwylus. Er hynny, cynghorwn nad ydych yn gorlwytho socedi ble'n bosibl.

Gall gormod o blygiau mewn un soced orboethi, a all ddechrau tân, felly'r argymhelliad yw i gadw un plwg i bob un  soced. Mae'r un mor bwysig i sicrhau nad ydych yn defnyddio plygiau, socedi na cheblau sydd yn hen neu wedi eu gwefru'n wael, gan y gall hyn hefyd arwain i ddechrau tân trydanol.

Yn olaf, coginio. Os ydych chi'n coginio, peidiwch byth â gadael bwyd heb oruchwyliaeth, ac os cewch eich galw i ffwrdd am unrhyw reswm, sicrhewch eich bod yn troi y gwres reit i lawr, neu'n tynnu'r sosbenni oddi-ar y gwres yn gyfan gwbl. Mae'n arbennig o bwysig pan rydych yn coginio gydag olew poeth, gan fod hyn yn risg tân sylweddol ac mae tanau olew coginio'n arbennig o beryglus gan na ellir eu diffodd yn hawdd.

Gosodiadau Larwm TÂn a Mwy gyda Snowdonia Fire Protection

Os ydych chi'n edrych i osod system larwm domestig yn eich cartref neu'n meddwl y byddech yn elwa o fod yn berchen ar ddiffoddydd tân, yna dewch yma atom ni yn Snowdonia Fire Protection.

Rydym yn cyfuno bron i 50 mlynedd o brofiad gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, gan sicrhau bod ein systemau larwm tân domestig a masnachol yn bodloni'r gofynion llym a amlinellwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig. O ran diffoddyddion tân, gall ein tîm gynnig nodyn atgoffa cynnal a chadw a threfnu amser cyfleus i chi ar gyfer gwasanaeth cynhwysfawr i'r diffoddydd tân yn flynyddodol fel maent ei angen.

Am fwy o wybodaeth am ein gwasanaethau, neu am gyngor ar ddiogelwch tân yn eich cartref, cysylltwch â ni heddiw.