SFP van

Arweiniad ar y Mathau Gwahanol o Ddiffoddyddion TÂn

Mae deall cymhlethdodau systemau tân, fel diffoddyddion a larymau, yn hollbwysig i ddiogelu bywydau ac eiddo. Fel perchennog busnes, sicrhau eich bod yn gyfarwydd gyda'r dosbarthiadau gwahanol o ddiffoddyddion tân a'r diffoddyddion tân priodol ar gyfer pob dosbarth yw'r cam cyntaf i sefydlu cynllun diogelwch tân ar gyfer eich gofod masnachol.

Mae'r blog hwn gan yr arbenigwyr diogelwch yn Snowdonia Fire Protection Ltd yma i egluro ynghylch y gwahanol fathau o ddiffoddyddion tân sydd ar gael ac i gynnig mewnwelediad gwerthfawr i sut a phryd y dylid eu defnyddio.

Deall y Dosbarthiadau TÂn yn y Deyrnas Unedig

Mae tanau'n cael eu categoreiddio i wahanol ddosbarthiadau, a nodweddir gan y math o ddeunydd sy';n cael ei losgi yn y tân. Mae'r dosbarthiadau hyn yn cynnwys:

Dosbarth A: Tanau yn deillio o losgiadau cyffredin fel pren, papur neu frethyn.
Dosbarth B: Tanau sy'n cael eu bwydo gan hylifau fflamadwy megis petrol, olew a saim.
Dosbarth C: Tanau sy'n cael eu bwydo gan nwyon fflamadwy megis propan, bwtan, hydrogen, a.y.y.b.
Dosbarth D: Tanau sy'n cynnwys metelau hylosg megis magnesiwm a thitaniwm.
Trydanol: Tanau sy'n cynnau o offer trydanol fel teledu, cyfrifiaduron a llungopïwyr. Mae'n werth nodi, unwaith bydd yr offer trydanol wedi ei dynnu allan, y bydd y tân yn newid dosbarth.
Dosbarth F: Tanau sy'n digwydd mewn offer coginio sy'n cael eu bwydo gan frasterau ac olewau.

Y Mathau o Ddiffoddyddion TÂn a'u Cymwysiadau

Mae gwahanol fathau o ddiffoddyddion tân, a phob un wedi ei ddylunio i frwydro dosbarthiadau penodol o dân. Mae deall y gwahanol fathau a'u cymwysiadau'n hanfodol ar gyfel diogelwch tân effeithiol. Gallai defnyddio'r un anghywir wneud y tân yn llawer gwaeth ac hyd yn oed achosi niwed sylweddol i bobl sydd gerllaw. Dyma drosolwg o'r prif fathau o ddiffoddyddion:

Diffoddyddion DŴr (Dosbarth A)

Lliw y Label: Coch

Sut maent yn gweithio: Mae diffoddyddion dŵr yn gweithio drwy oeri'r deunydd sy'n llosgi, gan ostwng y tymheredd islaw y pwynt tanio.

Diffoddyddion Ewyn (Dosbarth A a B)

Lliw y Label: Hufen

Sut maent yn gweithio: Mae diffoddyddion ewyn yn mygu'r fflamau ac yn oeri'r deunydd sy'n llosgi, gan atal ail-danio.

Diffoddyddion Carbon Diocsid / CO2 (Dosbarth B a C)

Lliw y Label: Du

Sut maent yn gweithio: Mae diffoddyddion CO2 yn gweithio drwy ddadleoli'r ocsigen, ei dynnu o'r triongl tân, a tharfu ar y broses hylosgi.

Diffoddyddion Powdr Sych (Dosbarth A, B a C)

Lliw y Label: Glas

Sut maent yn gweithio: Mae diffoddyddion powdr sych yn mygu'r tân, a tharfu ar yr adwaith cemegol trwy roi haen o bowdr mân dros y ffynhonnel tanwydd.

Diffoddyddion Cemegol Gwlyb (Dosbarth F)

Lliw y Label: Melyn

Sut maent yn gweithio: Mae diffoddyddion cemegol gwlyb yn creu rhwystr ar wyneb yr olew sy'n llosgi, gan ei atal rhag rhyddhau anweddau fflamadwy.

Mae sicrhau eich bod yn gyfarwydd gyda'r risgiau tân penodol yn eich eiddo masnachol yn hanfodol wrth benderfynu pa ddiffoddyddion i'w gosod. Gall cynllun diogelwch tân cynhwysfawr a chwmni systemau tân dibynadwy eich helpu i sicrhau diogelwch eich eiddo a diogelwch unrhyw un sy'n gweithio ynddo neu'n ymweld.

I drafod eich anghenion diogelwch tân, ac i ddewis y diffoddyddion tân masnachol cywir ar gyfer eich anghenion chi, cysylltwch â'r tîm yma yn Snowdonia Fire Protection Ltd heddiw. Gyda blynyddoedd o brofiad ac ymagwedd wyliadwrus, rydym mewn sefyllfa dda i'ch helpu i ddiogelu eich busnes rhag effeithiau dinistriol tân.